Mae Matty'n Cofi
Mae'n bleser gennym gyhoeddi mai Matty Jones yw ein hail chwaraewr newydd o'r Haf.
Mae’r chwaraewr canol cae yn ymuno â ni o’r Drenewydd a dyma ein hail chwareawr i ni gipio oddi wrth y Robiniaid yr wythnos hon.
Dechreuodd Matty ei yrfa yn Academi Shrewsbury cyn symud ymlaen i Aberystwyth yn 2017, lle arhosodd am bum mlynedd cyn arwyddo i’r Drenewydd, lle enillodd Gôl y Tymor y clwb y tymor diwethaf.
Mae Matty yn gwybod popeth am y Cofi Army ac yn edrych ymlaen i ddechrau gyda ni:
“Cyn gynted ag y siaradais â Fish a gwrando ar be mae’n ceisio ei adeiladu yng Nghaernarfon roeddwn isho ymuno ar unwaith.
Bydd bod yn rhan o brofiad Ewropeaidd cyntaf Caernarfon mor arbennig.
Mae chwarae o flaen y Cofi Army bob wythnos a'u cael ar fy ochr am fod yn rhywbeth arbennig i fi a dwi’n edrych ymlaen yn arw! Ni allaf disgwyl i ddechrau a gweld beth arall y gallwn ei gyflawni y tymor hwn.”
Croeso i’r Carling Oval Matty.