Hwyl Fawr Ryan a Diolch (Welsh only)


Welsh only...

Dymunwn gyhoeddi fod Ryan Williams wedi gadael y clwb. Mae Ryan, a gafodd ei arwyddo gan Iwan Williams ym mis Mehefin 2017 ‘wedi bod yn ffefryn gyda chefnogwyr y Cofis ers pum mlynedd, ond wedi gweld ei gyfleoedd yn y tîm cyntaf yn gyfyngedig dros y ddau dymor diwethaf ac wedi penderfynu bod angen symud. Mae’r amddiffynnwr poblogaidd wedi diolch i’r clwb a’r cefnogwyr am eu cefnogaeth dros y blynyddoedd:

“Diolch i bawb sy’n gysylltiedig gyda’r clwb o’r board, staff a cefnogwyr i gyd am y 5/6 mlynadd diwethaf. Ma’i wedi bod yn bleser cynrychioli y clwb a’r dref fel cefnogwr o’r clwb. Dwi’n gutted fy mod wedi gorfod gwneud penderfyniad o gadael y clwb ond yn teimlo fy mod angen i wneud o i gael mwy o ‘regular football’. Pob lwc i’r team am weddill y tymor ac yn y dyfodol. Welai chi gyd yn yr Oval ar matchdays.
Hwyl fawr Ryan, a diolch i ti am pob dim!

Ryan Williams in a black Caerbarfin shirt

All News

#Unclwb