JD Cymru Premier

400 o ymddangosiadau i'r Cofi Messi


Llongyfarchiadau Darren Thomas!

Nos Wener, chwaraeodd Darren Thomas ei bedwar canfed gêm gystadleuol i Glwb Pêl-droed Tref Caernarfon.

Dechreuodd Darren ei yrfa hŷn gyda ein ail dim yn 2003/04 cyn symud ymlaen i Bontnewydd lle enillodd Gynghrair Caernarfon a’r Cylch yn 2004/05. Symudodd i'r Oval y tymor canlynol ond, wedi gwneud dim ond un ymddangosiad yng Nghynghrair Cymru ymunodd â Llangefni, lle bu am bedair blynedd lwyddiannus. Yn ystod ei gyfnod yng Nghae Bob Parry, bu Darren yn rhan ddylanwadol o’r tîm a enillodd Gynghrair Cymru Alliance ddwywaith.

Arwyddodd i Borthmadog yn 2011 cyn dychwelyd i'r Oval yn 2013.

Yn ei dymor cyntaf nôl yn ein clwb, fe enillon ni drebl teitl Cynghrair Cynghrair Cymru, Cwpan Cookson a Thlws CBDC a chwaraeodd Darren ran enfawr, gan daro pedwar ar bymtheg o goliau cynghrair a rhwydo ddwywaith yn rownd derfynol Tlws CBDC.

Er iddo adael am flas o Uwch Gynghrair Cymru gydag Aberystwyth am gyfnod byr yn 2015 dychwelodd ar ôl tri mis ac ers hynny mae wedi dod yn ffigwr talismanaidd i’r clwb.

Mae Darren hefyd wedi sgorio cant pedwar deg saith o goliau i’r Cofis ac mae ei lwyddiannau a’i gasgliad tlws gyda’r clwb yn dweud pob dim amdano:

Ennillwyr Cynghrair ‘Welsh Alliance’

Ennillwyr Cwpan Cookson

Ennillwyr Tlws FAW Trophy    

3 x Ennillwyr Cwpan Cynghrair ‘Welsh Alliance’

2 x Ennillwyr Cynghrair Cymru Alliance

2 x Ennillwyr Ffeinal Cymru Premier League ‘Play Off’s’

Sgorio Gol Gorau’r Degawd

Sgorio Gol y Tymor 2019/20

Mae Darren hefyd wedi cynrychioli tîm ‘Cymru C’ ac wedi bod yn gapten ar ei dîm yn ystod ymgyrch Ewropeaidd gyntaf y clwb yr haf diwethaf.

Mae cadeirydd y clwb, Paul Evans, yn talu teyrnged i Darren:

“Yn gyntaf oll, rwyf am longyfarch Darren am gyrraedd y garreg filltir arbennig hon o chwarae pedwar cant o gemau cystadleuol i’r clwb. Mae hon yn record clwb, o bell ffordd, ac mae’n deyrnged i’w ddoniau, ei ymrwymiad a’i ymdrechion ei fod wedi cyflawni rhywbeth nad oes neb arall wedi’i wneud.

Yn fy holl amser o ddilyn y clwb gallaf ddweud yn saff mai Darren yw’r chwaraewr gorau i mi ei weld yn gwisgo ein lliwiau.

Rwy’n cofio ei ymddangosiad cyntaf i ni fel eilydd yn yr Oval yr holl flynyddoedd yn ôl ac roedd yn bechod mawr ei fod wedi gweld ei gyfleoedd i chwarae mor gyfyngedig bryd hynny. Roedd yn ifanc, wrth gwrs, ond yn dalentog iawn a phrofodd hynny yn Llangefni a Phorthmadog cyn dychwelyd atom.

Mae’r hyn y mae wedi’i gyflawni ers dod yn ôl wedi bod yn eithaf anghredadwy a dweud y gwir a dydw i ddim yn meddwl ei fod wedi bod yn gyd-ddigwyddiad bod ein llwyddiant a dringo’n ôl i’r haen uchaf wedi dechrau o ddifrif gyda’i ddychweliad. Darren fydd y cyntaf i ddweud ei bod yn gêm tîm ac rydym wedi bod yn ffodus i gael llawer o chwaraewyr rhagorol yn y clwb yn ystod y cyfnod hwn, ond ef yw ein talisman.

Mae wedi rhoi cymaint o atgofion gwych i ni gyda’i goliau a’i berfformiadau ac mae ei ymrwymiad i’r clwb wedi bod yno i bawb eu gweld.

Byddwn hefyd yn dweud ei fod yn crynhoi'r hyn yr ydym wedi bod yn ceisio ei wneud fel clwb am y pymtheng mlynedd diwethaf. Ein nod erioed yn ystod y cyfnod hwn oedd i rhoi cyfle i’r dalent leol orau i chwarae i’r clwb ac rwy’n siŵr bod gweld Darren a chwaraewyr lleol eraill yn y tîm wedi amlygu hyn ac wedi rhoi rhywbeth i bobl ifanc sy’n tyfu i fyny yn yr ardal anelu at.

Roedd yn deimlad arbennig gweld dyn wedi ei eni a’i fagu yng Nghaernarfon yn ein harwain allan yn y pedair gêm hynny yng nghystadleuaeth Ewropeaidd haf diwethaf ac rwy’n siŵr y byddai pawb yn cytuno ei bod yn foment falch i ni gyd fel cefnogwyr weld Darren yn gwneud hyn.

Wrth gwrs, mae Darren yn dal i fod mor heini ag erioed, ac rwy’n siŵr bod ganddo ddigon o amser i ychwanegu llawer mwy o gemau at ei gyfanswm!

Bydd y clwb yn edrych i nodi’r gamp hon cyn diwedd y tymor felly cadwch olwg am gyhoeddiadau ond am y tro hoffwn ddiolch ar rhan pawb yn y clwb i Darren am bopeth y mae wedi’i wneud i’r clwb a’i longyfarch am gyrraedd y garreg filltir arbennig hon.”

 

 


Pob Eitem Newyddion

#Unclwb