Adam Davies i ymuno a'r Cofis!
Rydym yn falch o gyhoeddi bod Adam Davies wedi arwyddo cytundeb cyn contract i ymuno â ni ar gyfer tymor 2023/23.
Mae Adam yn ymosodwr sydd wedi chwarae i Gegidfa, Aberystwyth ac Airbus yn y system Gymreig. Mwynhaodd y bachgen chwech ar hugain oed ei dymor gorau hyd yma wrth sgorio deg gôl ar hugain yn nhymor dyrchafiad Airbus i Uwch Gynghrair Cymru yn 2021/22.
Ef yw llofnodwr cyntaf Richard Davies fel rheolwr a chawn glywed gan Richard ac Adam maes o law.
Croeso i'r clwb Adam!