Agored swyddogol y Llifoleuadau yn y Carling Oval nos sadwrn yma.
Rydym yn falch iawn o gyhoeddi y bydd ein goleuadau LED newydd yn cael eu defnyddio ar gyfer gêm tîm cyntaf am y tro cyntaf pan fyddwn yn chwarae Cei Connah o flaen camerau Sgorio nos Sadwrn, Medi 28ain. Hoffai’r clwb ddiolch i Mantell Gwynedd am ddarparu’r Grant Sector Gwirfoddol sy’n ein galluogi i uwchraddio’r llifoleuadau yn ystod yr Haf. Dyma ein cadeirydd, Paul Evans, yn egluro pwysigrwydd y llifoleuadau newydd i’r clwb: “Ar ôl edrych ar y posibiliadau o osod llifoleuadau LED yn y Carling Oval, fe wnaethom ddarganfod, yn y tymor hir, y byddant yn fwy ynni-effeithlon, hirhoedlog a chost-effeithiol na goleuadau confensiynol. Roedd y goleuadau oedd gennym yn flaenorol yn ddrud iawn i'w rhedeg, a gwelsom fod yn rhaid i ni newid llawer o'r bylbiau bob tymor, a oedd eto'n costio llawer o arian i ni. Bydd gan y goleuadau LED hefyd well ansawdd golau ac felly mae hyn yn bwysig mewn perthynas â'n ceisiadau am Drwyddedau Domestig ac UEFA. Rydym hefyd yn gobeithio y bydd gwneud y llifoleuadau yn fwy fforddiadwy yn galluogi mwy o gemau nos ar y maes yn cynnwys ein merched a thimau Academi. Rydym yn hynod ddiolchgar i Mantell Gwynedd a Chyngor Gwynedd am weithio ar y prosiect gyda ni ac i Lywodraeth y DU am ddarparu’r cyllid i’n galluogi i uwchraddio ein llifoleuadau ac mae’n gyffrous i ni mai dyma un o’r camau cyntaf tuag at yr hyn y gobeithiwn fydd yn ddatblygiad mwr o’n stadiwm dros y flwyddyn neu ddwy nesaf."