Clwb Pêl-droed Tref Caernarfon a Teithio Carmel yn Cyhoeddi Gwasanaeth Bysiau i Gefnogwyr
Mae Clwb Pêl-droed Tref Caernarfon yn falch iawn o gyhoeddi menter newydd gyda'r darparwr trafnidiaeth lleol, Teithio Carmel, i gynnig gwasanaeth bysiau pwrpasol i gefnogwyr sy'n mynychu pob gêm gartref y tymor hwn.
Gyda'r tîm yn chwarae eu gemau cartref yn Llandudno, cydnabu'r clwb yr angen i sicrhau y gallai cefnogwyr barhau i gefnogi'r Caneries heb boeni am deithio. Diolch i'r cydweithrediad newydd hwn, bydd bys ar gael ar gyfer pob gêm gartref, gan ddarparu ffordd gyfleus a dibynadwy i gefnogwyr wneud y daith.
I wneud pethau hyd yn oed yn haws, bydd cefnogwyr yn gallu archebu eu seddi ar-lein trwy Ap Fanbase.
Mae'r fenter hon yn ffordd wych i'r clwb ddod â'r gymuned ynghyd a sicrhau y gellir clywed cefnogaeth enwog y Cofi yn uchel ac yn glir ym mhob gêm. Hoffai'r clwb hefyd atgoffa pob cefnogwr na ellir yfed alcohol ar y gwasanaeth hwn.
I archebu taith bysiau ar gyfer y gêm gartref yn erbyn Llanelli cliciwch ar y ddelwedd.
