JD Cymru Premier

Croesi i'r Carling Oval Ryan Sears


Rydym yn falch iawn o gyhoeddi bod Ryan Sears wedi ymuno â ni ar gyfer y tymor newydd.  

Mae Ryan yn amddiffynnwr pump ar hugain oed a ddaeth drwy'r Academi yn Shrewsbury Town, lle gwnaeth saith ymddangosiad yng Nghynghrair Un EFL. Mae hefyd wedi cael cyfnodau yn Telford, Grimsby a’r Drenewydd, lle cafodd ei enwi’n Chwaraewr y Flwyddyn eu Cefnogwyr ar gyfer tymor 2023/24.

Serennodd Ryan ym muddugoliaeth Cymru C dros Loegr y tymor diwethaf a chafodd ei enwi yn Nhîm y Flwyddyn Uwch Gynghrair Cymru ar gyfer 2023/24.

Fe wnaethon ni ddal i fyny gyda Ryan heddiw ac mae'n edrych ymlaen at chwarae i ni:

“Dwi’n falch iawn o fod wedi arwyddo i Gaernarfon, a hoffwn ddiolch i’r rheolwr am ddod â fi ar daith Caernarfon ar ôl eu tymor anhygoel. Rwy’n gyffrous iawn am yr ymgyrch sydd i ddod ac edrychaf ymlaen at chwarae o flaen y Cofi Army yn ein hantur Ewropeaidd a thrwy gydol ein tymor domestig.”

Croseo i'r Carling Oval Ryan. 


Pob Eitem Newyddion

#Unclwb