JD Cymru Premier

Croeso Cynnes i'r Carling Oval Matty Hill


Croeso Cynnes Matty Hill! Estynnwn groeso cynnes i Matty Hill, sydd wedi ymuno â ni ar ôl cyfnod gyda Bae Colwyn. Mae Matty yn asgellwr dde sydd hefyd yn gallu chwarae ‘fynu ffrynt’. Chwaraeodd i Ruthun cyn symud i Fae Colwyn yn 2022/23, lle sgoriodd bymtheg gôl mewn saith ar hugain o gemau cynghrair wrth i’r Gwylanod gipio teitl Cymru North. Sgoriodd Matty bum gôl mewn saith ar hugain o gemau Uwch Gynghrair Cymru y tymor diwethaf ac mae nawr yn edrych ymlaen at her newydd gyda’r Cofis: Rwy’n falch o fod wedi arwyddo ar gyfer clwb mor wych. Bydd chwarae o flaen y fyddin cofi bob wythnos yn arbennig a bydd ni hogia yn edrych i roi rhywbeth i godi calon iddyn nhw! Bydd yn flwyddyn gyffrous i bawb dan sylw a gobeithio y gallaf helpu i wthio’r tîm hwn ymhellach. Rwy'n edrych ymlaen at yr her ac yn methu aros i ddechrau! “ Croeso i Carling Oval Matty!

Pob Eitem Newyddion

#Unclwb