Croeso i'r Carling Oval Ben!
Mae’n bleser gennym gyhoeddi bod golwr tîm pêl-droed Abertawe, Ben Hughes, wedi ymuno â ni ar fenthyg am weddill tymor 2024-25.
Mae Ben wedi bod gyda’r Elyrch ers haf 2021, ar ôl ymuno o Chippenham Town, ac mae’n chwaraewr rhyngwladol ieuenctid Cymru ym myd pêl-droed a futsal.
Arwyddodd gytundeb proffesiynol cyntaf yn 2022 ac mae wedi ymddangos ar gyfer timau dan-18 a dan-21 y clwb.
Edrychwn ymlaen at groesawu Ben i'r Carling Oval.