Croeso i'r Carling Oval Blaine Hudson!
Mae’n bleser gennym gyhoeddi y bydd Blaine Hudson yn ymuno â ni ar fenthyg o’r Seintiau Newydd am weddill y tymor. Mae Blaine yn ganolwr 6 troedfedd 4 modfedd sydd wedi bod yn un o brif gynheiliaid pencampwyr Uwch Gynghrair Cymru ers ymuno â nhw ym mis Mehefin 2017, gan wneud 188 o ymddangosiadau tîm cyntaf iddyn nhw, a sgorio chwe gôl ar hugain. Mae ei glybiau blaenorol yn cynnwys Norwich City, Chester City, Wrecsam a Cambridge United. Croeso i’r Carling Oval Blaine!