Croeso i’r Carling Oval Josh!
Mae’n bleser gennym gyhoeddi bod Josh Lock wedi ymuno â ni ar fenthyg o’r Seintiau Newydd tan ddiwedd y tymor presennol. Mae Josh newydd droi’n 21 ac yn gallu chwarae yng nghanol cae ac fel ymosodwr ac mae o wedi bod yn chwarae i’r Drenewydd yn Uwch Gynghrair Cymru y tymor hwn.
Edrychwn ymlaen at ei weld yn ein carfan. Croeso i'r Carling Oval Josh.