JD Cymru Premier

Croeso i'r Carling Oval, Morgan


Rydym yn falch iawn o gyhoeddi fod Morgan Owen wedi ymuno â ni o CPD Porthmadog. Mae’r amddiffynnwr tair ar hugain oed wedi chwarae i Fae Colwyn a Llandudno cyn symud i’r Traeth haf diwethaf. Mae ein rheolwr, Richard Davies, yn falch iawn o fod wedi sicrhau gwasanaethau chwaraewr sydd yn uchel ei barch: “Dwin hapus iawn i gallu dod a Morgan i Caernarfon. Mae o yn ffitio yn union I’r math o bleiar da ni isho yn y clwb, riwyn sydd yn fodlon gweithio yn galed, llawn egni a rhoid bob dim I’r crys. Mi fydd sicir yn cryfhau ni fel garfan.” Croeso i’r Carling Oval Morgan!


Pob Eitem Newyddion

#Unclwb