Croeso i'r Clwb Begw
Rydym yn falch iawn o gyhoeddi bod Begw Elain wedi ymuno â’n tîm cyfryngau a marchnata. Mae cadeirydd y clwb, a’r swyddog cyfryngau, Paul Evans, yn falch iawn bod Begw wedi ymuno â ni: “Mae’n newyddion gwych bod Begw wedi ymuno â ni gan fod ganddi brofiad o’r math o allbwn cyfryngau rydyn ni’n chwilio amdano a bydd yn dod â llawer o syniadau newydd i'r tîm cyfryngau a marchnata. Rydym wedi bod yn chwilio am rywun sy'n gallu creu ac ysgrifennu nodweddion sy'n apelio at bawb ac roeddem hefyd yn awyddus iawn i gael rhywun sy'n gallu gwneud hyn i gyd yn yr iaith Gymraeg.Fel clwb Cymraeg mewn cymuned Gymraeg mae'n bwysig ein bod yn datblygu'r ochr yma o'n gwaith cyfryngau ac felly mae Begw yn ffitio'r clwb yn berffaith. Mae hwn yn ddatblygiad cyffrous i'r clwb ac rydym i gyd yn edrych ymlaen at weithio gyda Begw." Croeso i'r Oval Begw!