Croeso i'r Oval Louis Lloyd!
Rydym yn gyffrous i gyhoeddi dyfodiad talent ifanc cyffrous i’r Oval, wrth i Louis Lloyd ymuno â ni o Wrecsam.
Mae’r ymosodwr, sy’n hanu o Landudno, wedi bod yn Shrewsbury ac, yn fwyaf diweddar, yn Wrecsam ac mae’n ymuno â’r rheolwr newydd Richard Davies i ailwampio’r garfan, gan ddod yn bedwerydd arwyddiad y clwb o’r Haf.
Dywedodd Richard ei fod yn edrych ar newid yn y math o chwaraewr sydd gennym yn y clwb, gyda chyflymder ac athletiaeth yn flaenoriaeth, a mae Louis yn cyd-fynd yn berffaith â hynny.
“Rydyn ni’n chwilio am goliau ar y brig ac rwy’n meddwl y gall Louis ein helpu ni yn yr adran honno.”
Byddwn yn rhannu cyfweliad unigryw gyda Louis yn fuan iawn.
Croeso i'r Oval Louis.
