Mae’n bleser gennym gyhoeddi bod y golwr Stephen McMullan wedi ymuno â ni ar fenthyg o dîm Fleetwood Town o Gynghrair Dau EFL.
Gwnaeth Stephen, sy'n bedair ar bymtheg oed ac yn hanu o Dundalk, ei ymddangosiad cyntaf i Warrenpoint Town yn Uwch Gynghrair NIFL ym mis Ionawr 2022 a chafodd ei arwyddo gan Fleetwood Town bedwar mis yn ddiweddarach.
Cafodd Stephen ei alw i garfan dan-19 Gogledd Iwerddon ym mis Medi 2022, a derbyniodd ei alwad gyntaf i dîm pêl-droed cenedlaethol hŷn Gogledd Iwerddon ym mis Tachwedd 2023.
Gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf i’r Cofis yn ein buddugoliaeth 3-0 dros Fwcle mewn gêm gyfeillgar cyn y tymor.
Croeso i'r Oval Stephen!