JD Cymru Premier

Croeso 'nôl Ben !


Mae'n bleser gennym gyhoeddi bod Ben Maher wedi arwyddo i ni.

Chwaraeodd Ben i ni yn ystod ein tymor cyntaf nôl yn Uwch Gynghrair Cymru yn 2018 ond gadawodd ym mis Ionawr 2019 i chwilio am bêl-droed mwy rheolaidd.

Ers hynny mae wedi mwynhau cyfnodau ardderchog ym Mhrestatyn, Y Fflint a Derwyddon Cefn ac wedi addasu o fod yn chwaraewr ymosodol i fod yn chwaraewr canol cae.
Yn ffyrnig yn y dacl, a gyda lefelau ffitrwydd ardderchog, bydd Ben yn ychwanegiad gwych i'n carfan.

“Mae’n dda bod yn ôl! Rwy'n dod ymlaen yn dda iawn gyda Richard ac ar ôl bod yma o'r blaen nid oedd yn rhaid iddo werthu'r clwb i mi. Byddwn wedi hoffi chwarae mwy pan oeddwn yma gyntaf ac felly rwy’n teimlo bod gennyf bwynt i’w brofi!”

Croeso’n ol i’r Oval Ben!

Ben a Richard yn ysgwyd llaw

Pob Eitem Newyddion

#Unclwb