Croeso'n ol Paulo
Rydym yn falch iawn o gadarnhau bod Paulo Mendes wedi dychwelyd i'r Carling Oval.
Arwyddodd Paulo i ni am y tro cyntaf yn ystod haf 2020 ac roedd yn serennu yn ein tîm a gyrhaeddodd rownd derfynol gemau ail gyfle Ewrop. Gadawodd Paulo am Gei Coonah yn 2021 ac roedd gyda Bala y tymor diwethaf.
Mae’r chwaraewr canol cae wrth ei fodd i fod yn ôl gyda ni:
“Diolch am fy nghael yn ôl ac mae’n bleser bod yma eto. Yn anffodus pan arwyddais roedd hi’n flwyddyn pandemig (Covid), felly doedden ni ddim yn gallu cael y cefnogwyr, y Cofi Army, hefo ni yn y cae, ond mae hynny drosodd nawr ac eleni byddaf yn gallu eu gweld wrth chwarae drostynt.
Gobeithio bydd hi’n dymor gwych ac rydw i yma i helpu’r tîm i gyflawni pethau gwych.
Fe’ch gwelaf yn fuan iawn ac ni allaf aros i ddechrau arni.”