Cyhoeddi ein Rheolwr Cyffredinol.
Rydym yn hapus iawn i gyhoeddi bod Simon Davis wedi ymuno â ni fel ein Rheolwr Cyffredinol.
Mae’r rôl llawn amser yn rhan o gynlluniau strategol CBDC ar gyfer clybiau Uwch Gynghrair Cymru, a chredwn ei fod yn ddatblygiad pwysig i ni. Mae gan Simon dri deg chwe blynedd o brofiad yn y sector bancio ac mae ein cadeirydd, Paul, yn falch iawn o’i gael yn y clwb:
"Rydym yn teimlo bod cymhelliad CBDC i gyflogi rheolwr cyffredinol llawn amser yn ddatblygiad cyffrous i ni. Roeddem yn falch iawn o fod wedi cael safon uchel iawn o ymgeiswyr proffesiynol ar gyfer y swydd, a gobeithiwn ei fod yn adlewyrchiad o'r sefyllfa bresennol ni fel clwb.
Rwy’n gobeithio y bydd ein cefnogwyr yn teimlo ein bod yn datblygu’r clwb yn flynyddol a’r cam mawr nesaf i ni yw bod yn fwy proffesiynol ym mhopeth a mae gael rhywun o brofiad Simon yn ein clwb am ein helpu i wneud hyn."