Cyhoeddiad am ein Cronfa Cymunedol
Newyddion Pwysig!
Mae’n bleser gennym gyhoeddi ein bod, am y tro cyntaf erioed, wedi creu Cronfa Gymunedol Clwb Pêl-droed Tref Caernarfon y byddwn yn ei defnyddio er budd sefydliadau lleol sy’n agos at ein calonnau yn ystod cyfnod yr Ŵyl.
Dyma cadeirydd y clwb, Paul Evans, yn esbonio mwy am yr hyn sydd y tu ôl i’r prosiect:
“Rydym yn ymfalchïo mewn bod yn glwb cymunedol ac rydym yn gweld ac yn clywed am gymaint o waith gwych yn cael ei wneud yn y gymuned fel ein bod am wneud ein rhan i gefnogi'r sefydliadau hyn. Mae pobl y dref a’r cyffiniau yn ein cefnogi trwy gydol y flwyddyn felly rydym yn gobeithio lledaenu ychydig o hwyl yr ŵyl ein hunain.”
Byddwn yn adrodd ar y gronfa a sut y byddwn yn ei defnyddio yn ystod y mis hwn.
Clwb Pêl-droed Tref Caernarfon.