Cytundeb Cit Newydd i'r Cofis
Rydym yn falch iawn o gyhoeddi mai Wales Timber Solutions fydd noddwyr cit y clwb am y ddau dymor nesaf. Mae’r Cadeirydd Paul Evans yn esbonio pam mae’r cytundeb y cyntaf o’i fath i’r clwb: “Yn gyntaf, rydyn ni eisiau diolch i bawb yn Wales Timber Solutions am ddangos cymaint o hyder yn y clwb. Credwn fod ein brand yn unigryw yng Nghymru ac mae cael cwmni lleol sydd mor uchel ei barch yn eu diwydiant yn ein cefnogi fel hyn yn hwb enfawr i bawb yng Nghlwb Pêl-droed Tref Caernarfon. Mae’r bartneriaeth hon y tro cyntaf i ni fel clwb yn noddi cit y clwb i gyd, a bydd Wales Timber Solutions yn noddi ein holl dimau, drwy’r Academi, yn ogystal â’r tîm cyntaf. Mae hyn yn rhywbeth yr ydym wedi bod yn edrych i'w wneud ers blynyddoedd lawer a bydd cael ein holl timau yn gwisgo'r un cit yn union â'r tîm cyntaf yn gwella ein proffesiynoldeb ymhellach. Mae hwn yn ddiwrnod balch iawn i ni fel clwb ac edrychwn ymlaen at bartneriaeth lwyddiannus gyda Wales Timber Solutions.” Yn y llun, mae Osian Jones, cyfarwyddwr Wales Timber Solutions, yn ymuno â Paul wrth iddyn nhw gwblhau'r cytundeb dwy flynedd. I gael rhagor o wybodaeth am Wales Timber Solutions, dilynwch y ddolen: