JD Cymru Premier

Diolch a Phob lwc Stephen


Gallwn gadarnhau bod y golwr Stehen McMullan wedi cael ei adalw o’i fenthyciad gyda ni gan ei riant glwb, Fleetwood Town. Ymunodd Stephen â ni haf diwethaf a bu’n rhan annatod o’n hantur Ewropeaidd, gan serennu yn ein buddugoliaeth o giciau o’r smotyn yn Belfast dros y Crusaders, gan arbed dwy gic o’r smotyn a sgorio un ei hun wrth i ni ennill ar giciau o’r smotyn. Mae Stephen wedi bod yn ardderchog i ni’r tymor hwn ac rydym yn teimlo’n sicr y bydd yn rhagori yn y gêm broffesiynol. Diolch a phob lwc Stephen!


Pob Eitem Newyddion

#Unclwb