JD Cymru Premier

Diolch yn fawr iawn Owain.


Diolch yn fawr iawn Owain. Gallwn gyhoeddi bod Owain Bryn Jones wedi gadael ei rôl fel rheolwr ein Tîm Merched trwy gytundeb cydfuddiannol.

Cymerodd Owain yr awenau fel rheolwr y tîm yn ystod haf 2022 ac mae'n gadael y clwb gyda diolchgarwch a dymuniadau gorau pawb. Mae Dewi Owen, sy'n rheoli tîm Dan 17 y clwb a thîm merched Dan 13 ein Hacademi, yn cymryd yr awenau o'r tîm tan ddiwedd y tymor.

Dywedodd y Cadeirydd Paul Evans fod y clwb yn ddyledus iawn i'r rheolwr sy'n ymadael:

“Mae Owain wedi bod yn wych i'r clwb, ac mae wedi arwain y tîm gydag ymrwymiad ac angerdd o'r diwrnod cyntaf iddo ddechrau yn y rôl. Roedd ein tîm merched wedi bod yn mynd trwy cyfnod anodd am ychydig o flynyddoedd ac roedden ni fel Bwrdd wedi penderfynu newid cyfeiriad, a dyma pryd ymunodd Owain â ni. Mae wedi bod yn gyfnod da i'r tîm ac rydym wedi bod yn arbennig o falch o weld rhai o'n cyn-chwaraewyr yn ailymuno â ni yn ystod cyfnod Owain, yn ogystal o gweld chwaraewyr newydd yn ymuno. Bydd pawb sy'n ei adnabod yn gwybod bod ganddo angerdd mawr dros y tîm ac mae'n hynod boblogaidd gyda'r chwaraewyr a phawb yn y clwb. Mae'n gadael y tîm mewn lle llawer gwell nag pan ymunodd ac rydym i gyd yn diolch iddo am ei holl ymdrechion. Bydd croeso iddo bob amser yn yr Oval fel un ohonom ni. Diolch i ti Owain!”


Pob Eitem Newyddion

#Unclwb