Gem Gyfeillgar yn Ogledd Iwerddon.
Mae’n bleser gennym gyhoeddi y byddwn yn mynd i Ogledd Iwerddon fel rhan o’n paratoadau ar gyfer ein hymgyrch sydd i ddod yng Nghynghrair Cynhadledd Ewrop. Byddwn yn chwarae Cliftonville, enillwyr Cwpan Iwerddon 2024 yn eu stadiwm, Solitude, ar ddydd Sadwrn, 29 Mehefin.
Dyma Cadeirydd y Cofis Paul Evans ar y gêm:
"Rydym yn gyffrous gyda'r posibilrwydd o fynd draw i Belfast i chwarae yn erbyn tîm cryf iawn. Enillodd Cliftonville Cwpan Iwerddon y tymor diwethaf a gorffennodd yn drydydd yn Uwch Gynghrair NIFL hefyd felly mae'n mynd i fod yn brawf da i'n tîm, ond oedd hyn yr oedd Richard wedi gofy am felly rydym yn falch iawn o allu cadarnhau'r gêm. Diolch i bawb yn Cliftonville am gytuno i'n croesawu ac edrychwn ymlaen at ymweld â nhw am y tro cyntaf.”