Lotto Clwb yn cael ei Lansio
Rydym yn gyffrous iawn i gyhoeddi ein loteri clwb ein hunain! Mae’r Loto Cofi yn cael ei lansio yn dilyn ceisiadau gan gefnogwyr a hoffai helpu’r clwb i symud ymlaen. Dewiswch 3 rhif o 1-36 ar draws 5 llinell, am £5, i gael gyfle i ennill y Jacpot. Bydd y loteri'n cael ei thynnu'n fisol a gall y rhai sy'n dymuno cymryd rhan wneud hynny ar-lein, trwy glicio ar y llun neu ddefnyddio'r ddolen unigryw hon:
https://caernarfontownfc.clubforce.com/products/lotto/caernarfon-town-fc-lotto
Mae cadeirydd y clwb, Paul Evans, yn esbonio pam mae’r clwb wedi penderfynu cyflwyno’r loteri ar-lein:
“Yn dilyn rhedeg ein loteri yn llwyddiannus dair blynedd yn ôl mae llawer o bobl wedi bod yn gofyn i ni ei hailgyflwyno. Ar ôl meddwl am y ffordd orau o fynd ati i wneud hyn, credwn y bydd ei redeg ar-lein ychydig yn fwy o hwyl, ac yn ei gwneud yn haws i bobl, o bob rhan o’r Wlad, gymryd rhan.
Mae gan Clubforce hanes cryf yn y maes hwn a theimlwn eu bod yn cynnig gwasanaeth perffaith i ni redeg Loto Cofi. Mae’n hawdd ei ddefnyddio a bydd pawb sy’n cystadlu yn derbyn e-bost o’r canlyniadau, ac wrth gwrs, byddwn hefyd yn cyhoeddi’r canlyniadau ar ein llwyfannau cyfryngau. Rydyn ni eisiau diolch i'n rheolwr cyffredinol, Simon, am weithio gyda clubforce ar hyn.
Rydyn ni'n gyffrous iawn i lansio Loto Cofi ac eisiau dymuno pob lwc i bawb sy'n cymeryd rhan!”