MAE'R CLWB WEDI ARWYDDO CYTUNDEB GYDA CARLING I NODDI'R OVAL
Rydym yn hapus iawn i gyhoeddi mai Carling yw noddwr cyntaf o'r Oval. Bydd y cytundeb yn golygu y bydd y brand byd enwog yn noddwr swyddogol yr Oval ar gyfer y tymor presennol a bydd arwyddion yn cael eu gosod yn y dyddiau nesaf. Mae ein cadeirydd, Paul Evans, wrth ei fodd fod y clwb wedi llwyddo i ddenu enw mor fawr fel partner allweddol: “Mae hyn yn newyddion cyffrous i ni, ac rydym wrth ein bodd ein bod wedi cael Carling i gymryd rhan. Rydym yn gweld hyn fel cam pwysig yn ein twf fel clwb ac roedd yn bwysig i ni fod pwy bynnag yr ydym yn partneru hefo gyda enw ac ucehl eu parch fel busnes. Mae Carling yn sicr yn hyn! Dymunwn ddiolch i bawb yn Carling a bwrdd Clwb Cefnogwyr Pêl-droed Tref Caernarfon am weithio gyda ni i sicrhau’r cytundeb yma. Mae pawb yn yr Oval yn edrych ymlaen at weithio gyda Carling a’r Clwb Cefnogwyr yn y dyfodol.” Bydd Clwb y Cefnogwyr ar agor am 1pm dydd Sadwrn yma ac yn dangos gêm Armenia v Cymru. Bydd y clwb hefyd ar agor cyn ein gêm ddydd Sul, cic gyntaf am 2:30pm. #byddwchynynwybodoloddiod