JD Cymru Premier

Mynediad am ddim i blant wedi'i gadarnhau ar gyfer y tymor newydd.


Mae’n bleser gennym gyhoeddi y byddwn yn parhau i ganiatáu plant dan 16 oed i mewn i’r Oval am ddim y tymor hwn. Mae ein cadeirydd, Paul Evans, yn esbonio barn y clwb ar y mater: "Pan wnaethon ni gyhoeddi y byddai plant yn cael mynd i mewn i'r maes am ddim ar ddiwrnodau gêm y tymor diwethaf roedden ni wedi gwneud y penderfyniad oherwydd yr argyfwng costau byw ac wedi cynllunio y byddai'n ddigwyddiad unwaith ac am byth ar gyfer y tymor. Ond, credwn fel bwrdd fod gennym ran bwysig i'w chwarae yn y gymuned a, gyda chostau byw yn dal i effeithio ar bawb, ac yda ni hefyd yn meddwl y bydd perfformiadau gwych y tîm yn Ewrop yn ystod yr haf wedi denu cefnogwyr ifanc newydd, yda ni isho rhoi cyfle iddyn nhw i gyd gefnogi’r tîm yn y Carling Oval. Rydym yn gobeithio y bydd y plant ifanc yn mwynhau cefnogi’r tîm yn y stadiwm ac y byddant yn gweld Caernarfon fel eu tîm yn y dyfodol.”

Pob Eitem Newyddion

#Unclwb