Neges o ddiolch gan y Cadeirydd
O’r diwedd, yda ni wedi gwneud hi! Rydym wedi bod mor agos at gymhwyso ar gyfer Ewrop yn y blynyddoedd diwethaf fel ei bod yn dal yn anodd credu ein bod wedi cyrraedd yno o'r diwedd! Roedd pobl yn cwestiynu penderfyniad y clwb i roi y rôl rheolwr i Richard ddeuddeg mis yn ôl ond doedd gennym ni ddim amheuaeth mai fe oedd y dyn iawn ar gyfer y swydd, ac mae wedi profi be oedda ni gyd yn ei wybod, fod ganddo’r hyn sydd ei angen i reoli un o’r clybiau mwyaf yng Nghymru. Roedd y tîm yn rhagorol ddydd Sadwrn ac, er bod ni wedi cael eu labelu’n ‘underdogs’ yn dilyn canlyniadau ddiweddar ein gwrthwynebwyr, nath yr hogiau dominyddu o’r dechrau i’r diwedd ac oedd y buddugoliaeth yn llawn haeddiannol. Rwyf am ddiolch i Richard, Kev, Mark, PD, Jack, Darren ac Ifan a charfan y tîm cyntaf i gyd am ein gwneud mor falch ac yn helpu ni i wireddu ein breuddwydion. Rwyf hefyd am ddiolch i'n Bwrdd anhygoel ni am eu gwaith diflino yn ystod y tymor, maen nhw i gyd wedi bod yn anhygoel, ac i'n holl wirfoddolwyr gwych ac aelodau o staff trwy gydol y clwb, ni fyddem yma hebddynt. Mae ein model busnes yn dibynnu ar nawdd ac felly i’n noddwyr, i bob un ohonoch sydd wedi ein cefnogi dros y blynyddoedd, rydym yn gwerthfawrogi eich cefnogaeth ffyddlon a pharhaus, rydych yn rhan hanfodol o be yda ni wedi gyflawni. Ac yn olaf, diolch yn fawr iawn i'n cefnogwyr. Roedd gennym ychydig llai na dwy fil o aelodau’er ‘Cofi Army’ yn annog y tîm i fuddugoliaeth ddydd Sadwrn a heb os roedd yn un o’r achlysuron gorau mae’r Oval wedi’i weld. Roedd yn enghraifft o pam ein bod yn glwb mor unigryw yn y system Gymreig ac rwy’n siŵr y byddwch yn cytuno fyse’n gret gael diwrnodau tebyg yn y dyfodol. Roedd yr awyrgylch yn anhygoel, y gorau dwi wedi gweld yn ein stadiwm mewn dros ddeugain mlynedd o fynychu gemau, ac yn ddi-os rhoddodd eich cefnogaeth yr hyder a’r awydd i’r tîm fynd â’r gêm i’n gwrthwynebwyr. Pedair blynedd ar ddeg yn ôl bu bron i ni golli ein clwb ond, trwy gariad ac ymrwymiad pawb sy'n ymwneud â ni, rydym wedi brwydro'n galed i roi ein hunain yn y sefyllfa ryfeddol hon o'r diwedd. Rwy’n meddwl ei bod yn bwysig myfyrio a diolch i’r rhai sydd wedi helpu’r clwb ers y dyddiau tywyll hynny yn 2010, rhai nad ydynt bellach gyda ni, ond hebddynt fyse’r daith erioed wedi’i chwblhau. Ni fydd eu hymdrechion yn cael eu hanghofio gan unrhyw un ohonom yn yr Oval. Bydd y ‘draw’ Ewropeaidd yn cael ei chynnal fis nesaf a gallwn wedyn edrych ymlaen at ein gêm gyntaf dramor ym mis Gorffennaf. Mae’n amser anhygoel i fod yn gefnogwr Caernarfon a byddwn yn gwneud ein gorau glas i’ch gwneud yn falch. Gadewch i ni ddangos i Ewrop pwy a be yda ni gyd am! Paul.