JD Cymru Premier

Newyddion Trist


Tristwch yw clywed fod cefnogwr gydol oes Tref Caernarfon, Harry Griffiths (Harry R & I) wedi marw. Mae Harry wedi bod yn gyson yn ein gemau, gartref ac oddi cartref, ers degawdau ac roedd yn un o'r cymeriadau a wnaeth ymweliad â'r Oval mor arbennig. Cydymdeimlwn yn ddwys â gwraig Harry, Gwen, a’u plant, Gareth ac Angharad a’u holl deulu a ffrindiau ar yr amser trist hwn. Bydd pawb yn yr Oval yn gweld eisiau Harry yn fawr.

Byddwn yn cynnal munud o gymeradwyaeth er cof am Harry cyn y gêm yfory yn yr Oval.


Pob Eitem Newyddion

#Unclwb