JD Cymru Premier

Osian yn arwyddo cytundeb cyntaf....


Rydym yn falch iawn o gyhoeddi bod Osian Ellis wedi arwyddo ei gytundeb cyntaf gyda Chlwb Pêl-droed Tref Caernarfon.

Mae Osian wedi serennu i’n tîm dan 19 y tymor hwn ac wedi bod yn gyson yng ngharfan y tîm cyntaf.

Gwnaeth y bachgen dwy ar bymtheg oed ei ddechreuad cyntaf i’r tîm hŷn yn y fuddugoliaeth o 2-1 dros Met Caerdydd ddydd Sadwrn yn y Carling Oval ac mae ein cadeirydd, Paul, yn esbonio beth mae’n ei olygu i’r clwb:

“Ein polisi yn y blynyddoedd diwethaf fu ceisio darparu llwybr clir o’r Academi i’r tîm cyntaf ac mae arwyddo Osian yn dyst nid yn unig i’w ymdrechion a’i ddawn amlwg ond hefyd i’r gwaith gwych sy’n cael ei wneud gan Dave Cavanagh a’i hyfforddwyr yn yr Academi.

Mae gennym reolwr yn Richard Davies sydd yn hapus i rhoi cyfle i’n chwaraewyr ifanc gorau yn y tîm cyntaf os ydyn nhw’n ddigon da ac felly mae gweld cynnydd Osian yn y misoedd diwethaf yn gyffrous i ni gyd.

Rydym yn hyderus bod ganddo ddyfodol disglair iawn gyda ni.


Pob Eitem Newyddion

#Unclwb