JD Cymru Premier

Park Avenue i gynnal Rowndiau Cynderfynol Cwpan Ieuenctid FAW


Bydd Park Avenue yn Aberystwyth yn cynnal dwy Rownd Gynderfynol Cwpan Ieuenctid Cymdeithas Bêl-droed Cymru y tymor hwn ddydd Sul 2 Mawrth.

Roedd angen ciciau o'r smotyn ar Tref Caernarfon i guro Nomads Cei Connah yn rownd yr wyth olaf a byddan nhw'n cwrdd â Sir Casnewydd, a gurodd allan deiliaid cwpan Briton Ferry Llansawel, am 12:30.

Yna am 16:30, bydd Y Drenewydd - concwerwyr Y Seintiau Newydd yn yr wyth olaf - yn mynd benben yn erbyn Sir Hwlffordd a drechodd Gaerau Elái ar ciciau o'r smotyn.

Bydd tocynnau ar gyfer y ddwy rownd gynderfynol ond ar gael i'w prynu ar y gât, gan gostio £2 i oedolion. Mae mynediad yn rhad ac am ddim ar gyfer consesiynau.


Pob Eitem Newyddion

#Unclwb