
Rydym yn falch iawn o gyhoeddi mai Fanbase yw ein partner newydd tocynnau ac ymgysylltu â chefnogwyr. Yn dilyn trafodaethau gyda’n partneriaid creadigol, The Deep Creative, rydym wedi penderfynu y bydd Fanbase yn bartner delfrydol i ni wrth i ni geisio cynnig llwyfan tocynnau digidol newydd i’n cefnogwyr ac edrych ar wella ymgysylltiad ein cefnogwyr. Mae’r Cadeirydd Paul Evans yn esbonio pam mae’r clwb mor gyffrous â’r bartneriaeth:
"Bydd cefnogwyr yn gallu prynu tocynnau ar y platfform, a byddwn hefyd yn creu cynnwys arno fel newyddion a fideos. Rydym yn meddwl ei fod yn ffordd gyffrous i ni ymgysylltu â'n cefnogwyr ac rydym yn edrych ymlaen at weld sut mae'n datblygu yn ystod gweddill y tymor hwn."
Gellir cyrchu Fanbase trwy’r rhyngrwyd yn app.fanbaseclub.com a hefyd ei lawrlwytho'n uniongyrchol i'ch dyfais trwy'r siop Apple/Android.