Rhagolwg Gem Llansawel v Cofis
Mae'r Cofis yn parhau â'u hymgyrch gynghrair yfory gyda thaith i'r Old Road i chwarae yn erbyn Llansawel.
Yn debyg i Gaernarfon, mae Llansawel wedi mwynhau dechrauad calonogol iawn i'r tymor ac, ar ôl dechrau eu hymgyrch gyda buddugoliaeth ragorol o 3-0 oddi cartref yn erbyn Y Seintiau Newydd, maent wedi cadarnhau eu cymwysterau ymhellach gyda chanlyniadau cadarnhaol yn erbyn Lanelli, Met Caerdydd, Bae Colwyn a Phenybont, a gurwyd allan o Gwpan Nathaniel MG nos Fercher ganddynt, diolch i giciau o'r smotyn ar ôl gêm gyfartal 2-2.
Bydd Caernarfon yn gobeithio ymestyn eu dechrauad heb golli i'r ymgyrch. Maent wedi dechrau'n dda ond byddant yn gwybod y bydd unrhyw gêm oddi cartref yn Uwch Gynghrair Cymru yn her anodd i'w goresgyn, fel y profodd eu dwy daith ddiwethaf i lawr y De, y ddwy yn gorffen mewn gemau gyfartel, yn Met Caerdydd a Hwlffordd.
Mae'r Cofis yn mynd i mewn i'r gêm ar gefn buddugoliaeth anodd, diolch i giciau o'r smotyn, dros y Dreffynnon yng Nghwpan Nathaniel MG nos Mercher, ar ôl gêm gyfartal 2-2.
Mae’r 'Ffery', dan reolaeth Andy Dyer, ar hyn o bryd yn y pumed safle yng Nghynghrair Uwch Cymru a bydd Richard Davies yn ymwybodol y bydd ei dîm, sydd ar frig y tabl ar hyn o bryd, yn wynebu her anodd yfory.
