Rhagolwg Gêm y Penwythnos
Rydym yn agor ein hymgyrch Uwch Gynghrair Cymru gyda thaith i'r brifddinas i chwarae yn erbyn Met Caerdydd yn Stadiwm Cyncoed.
Yn debyg i ni ein hunain, mae'r ‘Archers’ wedi cael haf prysur o ran recriwtio ac wedi dod â saith chwaraewr i'r clwb, sef Fumpa Mwandwe, Liam Wwalsh, Jonah Williams, Harri John, Dan John a Sam Seager. Maent hefyd wedi cyhoeddi'n ddiweddar fod y rheolwr Ryan Jenkins wedi llofnodi estyniad contract a fydd yn ei weld yn aros yn y clwb tan o leiaf 2027.
Mae gemau rhwng y timau wedi bod yn agos erioed, gyda'r tymor diwethaf yn enghraifft berffaith, gyda dwy fuddugoliaeth yr un a thair o'r pedair gêm gynghrair yn cael eu hennill gan un gôl, tra bod y Cofis wedi ennill rownd gynderfynol y Gemau Ail Gyfle Ewropeaidd ar giciau o'r smotyn ar ôl gêm gyfartal 0-0.
Enillodd y timau eu gemau agoriadol y tymor penwythnos diwethaf, gyda buddugoliaethau cyfforddus yn ail rownd Cwpan Nathaniel MG, Caernarfon yn trechu Bae Colwyn 3-0 a Met yn curo Pontypridd 4-0.
Mae Caernarfon wedi cael hwb yr wythnos hon gyda'r cyhoeddiad bod Sion Bradley a Josh Lock wedi dychwelyd i'r clwb ar fenthyg o'r Seintiau Newydd.
Bydd y gêm ddydd Sadwrn yn cychwyn am 2:30pm ac mae tocynnau ar gael ar y giat a thrwy wefan Met Caerdydd, neu trwy clicio ar y delwedd.
