JD Cymru Premier

Rhagolwg y Gem Cofis v Llanelli


Bydd Caernarfon yn croesawu Llanelli i'w chartref dros dro yn Stadiwm Go Goodwins ar ddydd sadwrn yn y Gynghrair Premier Cymru. Bydd y Cofis yn teimlo'n positif ar ol y gêm gyfartal yr wythnos diwethaf gyda Met Caerdydd pan achubodd Darren Thomas bwynt iddynt gyda gôl yn ystod amser anaf. Wedi bod ar ei ôl o ddwy gôl i ddim ar hanner amser yr wythnos diwethaf, bydd yn ddiddorol gweld beth fydd Richard Davies yn ei wneud gyda'i dîm y tro hwn, gan fod pob un o'r eilyddion yr wythnos diwethaf wedi gael effaith enfawr ar y gem. Bydd yr ymwelwyr, a enillodd Gynghrair Premier Cymru De'r tymor diwethaf dan reolaeth Lee John, yn benderfynol o bownsio;n ol ar ôl eu colled ar y ddiwrnod agoriadol i'r Barri o 0-2. Mae'r cochion wedi arwyddo nifer o chwaraewyr i'r garfan drost yr Haf a byddent yn edrych ymlaen i herio'r Cofis. Fydd y gic cyntaf am 2:30yh.

Pob Eitem Newyddion

#Unclwb