
Rhagolwg y gem fawr.....
Fe fydd y gêm fwyaf yn hanes Caernarfon yn cael ei chynnal yn Stadiwm Nantporth nos Iau yma wrth i’r Cofis herio’r Crusaders yn rownd ragbrofol gyntaf Cynghrair Cynhadledd Europa.
Mae rheolwr y dref Richard Davies wedi cryfhau ei garfan yn ystod yr wythnosau diwethaf a thra bod tri aelod o garfan y tymor diwethaf wedi gadael (Sion Bradley, Iwan Cartwright a Ben Maher), mae wedi dod â dim llai na chwe chwaraewr i mewn i’r clwb.
Y chwaraewyr yma yw Ryan Sears a Matty Jones o’r Drenewydd, Sam Downey a Matty Hill o Fae Colwyn, Paulo Mendes o’r Bala a’r golwr Stephen McMullan o Fleetwood Town.
Gorffennodd y Crusaders yn bedwerydd safle yn Uwch Gynghrair NIFL y tymor diwethaf ac, fel Caernarfon, fe wnaethon nhw gymhwyso ar gyfer Cynghrair Cynhadledd Europa diolch i fuddugoliaeth derfynol y gemau ail gyfle, a sicrhawyd gan enillydd munud olaf gan arwr y clwb Jordan Owens mewn buddugoliaeth o 3-2 yn erbyn Coleraine. .
Mae’r ddau dîm wedi bod yn cystadlu mewn gemau cyn y tymor yn ystod yr wythnosau diwethaf, gyda Chaernarfon yn ennill buddugoliaethau teilwng dros Nomadiaid Cei Connah, Cliftonville a Bwcle Town a’r Crusaders yn cael canlyniadau cymysg, gan arwain at y golled 1-3 yn erbyn Salford ddydd Sadwrn.
Fodd bynnag, nid yw canlyniadau cyn y tymor yn golygu dim ar hyn o bryd a bydd y ddau ochr yn gobeithio wneud eu marc yng nghystadleuaeth y Cynghrair Cynhadledd Europa tymor yma.
Mae’r gic gyntaf ddydd Iau am 6:30pm ac mae’r gêm wedi gwerthu allan.