JD Cymru Premier

YMWELIAD I WARD Y PLANT


Gwnaeth staff, chwaraewyr ac aelodau bwrdd Clwb Pêl-droed Tref Caernarfon ymweliad arbennig ag Ward Plant Ysbyty Gwynedd ddydd Sul.

Roedd rheolwr y tîm cyntaf Richard Davies, capten y clwb Darren Thomas a ffefryn y cefnogwyr Sion Bradley ymhlith y rhai a oedd yn bresennol wrth i'r clwb gyflwyno anrhegion i staff Ward Dewi i'w rhoi i'r plant dros gyfnod yr ŵyl.

Dywedodd Darren Thomas: "Mae ymweld â ward y Plant yn rhywbeth yr oeddem ni i gyd wir eisiau ei wneud eleni. Gobeithiwn y bydd yr anrhegion o gymorth mewn rhyw ffordd ac yn rhoi gwên ar wynebau'r plant yn ystod cyfnod anodd iddyn nhw a'u teuluoedd."

Roedd Sion Bradley hefyd eisiau talu teyrnged i staff y Ward: "Rwy'n siŵr ein bod ni i gyd yn adnabod rhywun sydd wedi cael ffrind neu aelod o'r teulu wedi cael gofal ar y ward ar ryw adeg ac rydym ni i gyd eisiau diolch i'r staff gwych am bopeth maen nhw'n ei wneud i'r plant a'u teuluoedd."

Mae pawb yng Nghlwb Pêl-droed Tref Caernarfon yn dymuno Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda ac Iach i bawb ar Ward Dewi, cleifion a staff.


Pob Eitem Newyddion

#Unclwb