Ystafell Cymunedol i'w henwi ar ôl Josh Lloyd Roberts ar gyfer tymor 2024.25
Rydym yn falch o gyhoeddi y bydd ein ystafell gymunedol yn yr Oval yn cael ei henwi ar ôl pobl sydd wedi cael effaith ar y clwb a’r dref.
Fel bwrdd rydym wedi bod yn meddwl am ffordd y gallwn dalu teyrnged i bobl ein cymuned ac yn teimlo y byddai hyn yn ffordd neis o’u cydnabod. Ein cynllun yw enwi’r ystafell gymunedol ar ôl unigolyn bob tymor ac rydym yn falch o fod yn enwi ein hystafell ar gyfer y tymor hwn ar ôl Josh Lloyd Roberts.
Roedd Josh yn gefnogwr oes i’r clwb a chwaraeodd i’n Academi ac a gafodd ei gymryd oddi wrth ei deulu yn drasig yn 2023.
Rydym yn hynod ddiolchgar i’w fam, Melanie, am gytuno i hyn ac rydym yn arbennig o falch o gyhoeddi’r newyddion yma ar yr hyn a fyddai wedi bod yn ben-blwydd yn un ar hugain oed i Josh heddiw.
Yda ni’n falch iawn, ar gyfer tymor 2024/25, bydd yr ystafell yn cael ei henwi fel Ystafell Cymunedol Josh Lloyd Roberts.
CPDTC.