JD Cymru Premier

Cefnogi’r Cofis – Tanio ein dyfodol gyda’n gilydd


poster cefnogi cofis

Mae'r tymor sydd i ddod yn nodi'r bedwaredd flwyddyn ar ddeg ers i grŵp o gefnogwyr ffurfio Bwrdd newydd ac achub y clwb rhag fynd allan o fusnes.

Ers hynny, rydym wedi cyflawni dau ddyrchafiad, wedi cael nifer o fuddugoliaethau mewn cwpanau a nawr yn edrych ymlaen at ein chweched tymor yn olynol yn Uwch Gynghrair Cymru.

Rydym wedi cyflawni hyn i gyd gyda phwyllgor o gefnogwyr sydd i gyd yn wirfoddolwyr yn y clwb.

Rydym wedi cyflawni hyn drwy ddibynnu'n gyfan gwbl ar dderbynebau clwyd a nawdd. Ein blaenoriaeth fel Bwrdd yw rhedeg clwb cynaliadwy, wrth fod yn gystadleuol ar y maes.

Fodd bynnag, mae’r ddwy flynedd ddiwethaf wedi bod yn her wirioneddol wrth i ni geisio ail adeiladu ar ôl y pan demig a gwneud ein gorau i roi tîm i’r Dref fod yn falch ohono.

Mae cefnogwyr yn aml yn cysylltu â ni ac efallai nad ydyn nhw eisiau ein noddi ac nad oes ganddyn nhw fusnes, ond fyse nhw'n hoffi cyfrannu rhywbeth tuag at redeg y clwb.

Gyda hyn mewn golwg rydym wedi cymryd y penderfyniad i gyflwyno’r ymgyrch ‘Cefnogi'r Cofis – Tanio Ein Dyfodol Gyda’n Gilydd’ lle gall y rhai a hoffai gyfrannu tuag at gadw’r clwb yn gynaliadwy wneud hynny.

Mae llawer o glybiau wedi cyflwyno ymgyrch ‘Boost the Budget’ yn y tymhorau diwethaf ond byddai’n well gennym ddefnyddio unrhyw roddion i’w defnyddio i’n helpu i redeg y clwb yn ogystal â rhoi hwb i’r gyllideb, a gobeithio darparu sefydlogrwydd ariannol ar adeg anodd.

Dyma le gallwch chi chwarae rhan bwysig.

Rydym yn ymwybodol o’r cynnydd mewn costau byw, ac yn deall na fydd pawb yn gallu, neu hyd yn oed eisiau, gwneud cyfraniad i’r clwb.

Y flaenoriaeth bob amser yw gofalu am ein teuluoedd yn gyntaf ac yn bennaf. Ond, os ydych yn ddigon ffodus i fod mewn sefyllfa i roi rhywbeth i’r clwb ar gyfer y tymor i ddod, ac eisiau gwneud hynny, byddem yn ddiolchgar iawn ac yn gallu eich sicrhau y bydd yn gwneud gwahaniaeth sylweddol i’r clwb.

Gallwch gyfrannu unrhyw swm y dymunwch, ni waeth pa mor fawr neu fach, a gallwch wneud hynny fel cyfandaliad neu ddebyd uniongyrchol misol.

Bydd ymgyrch ‘Cefnogi'r Cofis’ ar agor o heddiw tan ddiwedd mis Awst ac nid ydym yn cyhoeddi unrhyw dargedau rhoddion gan y bydd pob rhodd yn cael ei werthfawrogi’n fawr ac yn rhoi hwb mawr i ni.

Byddwn yn postio diweddariadau rheolaidd o’r swm a roddwyd ar ein gwefan a llwyfannau cyfryngau cymdeithasol.

Manylion am sut i roi a’r haenau gwahanol sydd ar gael yw:

Rhoddion unwaith ac am byth.


Gellir talu rhoddion unwaith ac am byth yn syth i gyfrif banc y clwb. Yn syml, rhowch ‘Donation One Off’ a’ch enw a chyfeiriad e-bost fel cyfeiriad a byddwn yn gwybod bod eich rhodd yn rhan o’n hymgyrch ‘Cefnogi'r Cofis’.

Byddwch yn derbyn cyfweliad misol ecsgliwsif gyda'r rheolwr neu'r cadeirydd am y digwyddiadau diweddaraf yn y clwb a byddwch hefyd yn cael eich cynnwys yn ein rafflau misol unigryw.

Cyswlltwch i wneud taliad: post@caernarfontownfc.co.uk

Taliadau Debyd Uniongyrchol misol


Haen 1. Cofi Messi – Yr Arwr Lleol: Debyd uniongyrchol misol am £5.

Trwy sefydlu debyd uniongyrchol o £5 y mis byddwch yn derbyn bathodyn pin clwb unigryw a byddwch yn cael eich cynnwys yn ein raffl fisol. Byddwch hefyd yn cael cyfweliad fideo misol gyda rheolwr y tîm cyntaf neu gadeirydd y clwb lle byddant yn rhannu'r wybodaeth ddiweddaraf am y clwb.

Haen 1

Haen 2. Un Clwb. Debyd uniongyrchol misol am £10.

Drwy sefydlu debyd uniongyrchol o £10 y mis byddwch yn derbyn het fwced clwb unigryw a byddwch yn cael eich cynnwys yn ein raffl fisol. Byddwch hefyd yn cael cyfweliad fideo misol gyda rheolwr y tîm cyntaf neu gadeirydd y clwb lle byddant yn rhannu'r wybodaeth ddiweddaraf am y clwb.

Haen 2

Haen 3. Yr haen Melyn a Gwyrdd. £25 Debyd uniongyrchol misol.

Trwy sefydlu debyd uniongyrchol o £25 y mis byddwch yn derbyn ein bathodyn pin clwb unigryw, het bwced a crys-t unigryw a byddwch yn cael eich cynnwys mewn raffl fisol unigryw. Byddwch hefyd yn cael cyfweliad fideo misol gyda rheolwr y tîm cyntaf neu gadeirydd y clwb lle byddant yn rhannu'r wybodaeth ddiweddaraf am y clwb.

Haen 3


Pob Eitem Newyddion

#Unclwb