JD Cymru Premier

Cofis yn Cefnogi Gisda


Mae Clwb Pêl-droed Tref Caernarfon wrth ei fodd o fod wedi rhoi rhodd i Gisda, elusen sy'n cefnogi ac yn darparu cyfleoedd i bobl ifanc bregus a digartref (16-25 oed) yng Ngwynedd, Gogledd Cymru.

Ymwelodd capten y clwb, Darren Thomas, a'r cadeirydd Paul Evans, â Swyddfa'r elusen yng Nghaernarfon ddydd Iau i gwrdd â staff a darganfod mwy am y gwaith maen nhw'n ei wneud gyda'r bobl ifanc sy'n byw yn yr ardal.

Dywedodd Darren: “Mae'r gwaith mae Gisda yn ei wneud gyda phobl ifanc bregus yn bwysig a gall newid bywydau. Roedd yn ddiddorol clywed gan y staff am y nifer o wahanol ffyrdd y gall yr elusen helpu pobl sydd wir ei angen.”

Mae Paul yn falch bod y clwb wedi gallu helpu mewn ffordd fach drwy wneud y rhodd: "Mae’r ddyddiau ‘ma mor heriol i bawb, a gall pobl ifanc fod yn arbennig o bregus. Mae'r gwasanaeth y mae Gisda yn ei ddarparu yn hanfodol ac rydym yn falch iawn o'u cael fel elusen swyddogol y clwb. Rydym yn ymwybodol o'r effaith anhygoel y mae eu gwaith yn ei chael ar bobl ifanc yn ein cymuned, gan gynnwys cynnig tai diogel, hyfforddiant sgiliau bywyd, cyfleoedd cyflogaeth, cymorth iechyd meddwl a meithrin annibyniaeth. Rydym i gyd yn y clwb yn diolch i'r staff am eu gwaith rhagorol a byddwn yn parhau i gefnogi eu hymdrechion yn y dyfodol."

Gallwch ymweld â gwefan Gisda drwy ddilyn y ddolen: https://www.gisda.org/en/


Pob Eitem Newyddion

#Unclwb