Croeso ir Oval Mark
Mae'n bleser gennym gyhoeddi bod Mark Orme wedi ymuno â'n tîm rheoli. Chwaraeodd Mark i nifer o glybiau yn y system Gymreig, gan gynnwys Llangefni, Dinbych, Treffynnon a Llandudno.
Dechreuodd ei yrfa hyfforddi fel rheolwr Llandudno Junction yn 2014/15 cyn symud ymlaen i ddod yn rhan o staff hyfforddi Alan Morgan yn Llandudno. Yna cafodd gyfnod byr fel rheolwr Porthmadog cyn dod yn rheolwr cynorthwyol ym Mae Colwyn yn 2019/20.
Am resymau personol, mae Mark wedi gweithio yn bennaf yn system yr Academi ers ei gyfnod yn Llanelian Road ac roedd yn rheolwr cynorthwyol ar dîm Cwpan y Rhanbarthau a gynrychiolodd Cymru yn nhwrnamaint UEFA yng Ngogledd Iwerddon fis Hydref diwethaf.
Mae Mark yn gyffrous am ymuno â ni yn yr Oval:
“Doeddwn i ddim yn disgwyl yr alwad gan Richard, fodd bynnag ni chymerodd unrhyw amser i mi dderbyn y swydd, gan fod Caernarfon yn glwb pêl-droed enfawr ac mae’r hyn y mae’n ei olygu i’r bobl sy’n gweithio iddynt ac yn eu dilyn o wythnos i wythnos yn amlwg i weld. Rwy'n hynod gyffrous ac yn ddiolchgar fy mod wedi cael y cyfle i weithio yma.
Es i drwy fy nhrwyddedau hyfforddi gyda Rich ac rydym bob amser wedi cadw mewn cysylltiad. Rwy’n gwybod pa mor angerddol yw e am y clwb a’r etheg gwaith sydd ganddo, felly fy ngwaith i nawr yw ei helpu i symud pethau ymlaen.Rwyf wedi gweithio gyda nifer o’r chwaraewyr hŷn o’r blaen ac yn gwbl ymwybodol o’r cnwd cyffrous o chwaraewyr ifanc o fewn y tîm dan 19, ar ôl gweithio yn system yr Academi,
Rwy’n edrych ymlaen at ddechrau’r wythnos hon a cheisio sicrhau bod y clwb lle mae eisiau bod y tymor nesaf.”
Mae rheolwr y tîm cyntaf Richard Davies yn edrych ymlaen at weld beth fydd ei gaffaeliad cyntaf i’r clwb yn ychwanegu i’r staff rheoli:
“Rwy’n falch iawn o groesawu Mark fel rhan o’r tîm rheoli. Bydd Mark yn dod â chyfoeth o brofiad a gwybodaeth ar ôl gweithio mewn llawer o glybiau yn ystod ei yrfa ac mae'n ffigwr uchel ei barch ym mhêl-droed Cymru. O adnabod Mark yn bersonol, mae ganddo foeseg waith gwych ac o’n sgyrsiau mae’n amlwg ein bod ni’n rhannu’r un gwerthoedd. Edrychaf ymlaen at weithio gydag ef. Croeso i'r Oval Mark.”
