JD Cymru Premier

Croeso i'r Oval Sam Downey


Croeso i'r Oval Sam Downey! Rydym yn falch iawn o gyhoeddi bod Sam Downey wedi ymuno â ni. Mae Sam, sydd wedi bod ym Mae Colwyn ers pedair blynedd, yn chwaraewr canol cae 30 oed a wnaeth wyth deg ymddangosiad i Bae Colwyn ac roedd yn aelod o’u tîm buddugol yng nghystadleuaeth Cymru North yn 2023. Ef yw’n trydydd chwaraewr newydd o'r haf ar ol i Ryan Sears a Matty Jones ymuno hefo ni. Chwaraeodd Sam yn ein gêm gyfeillgar yn erbyn Nomadiaid Cei Connah ddydd Sadwrn ac mae'n edrych ymlaen at chwarae o flaen y Cofi Army: “Alla i ddim disgwyl i ddechrau, cafodd y tîm dymor anghredadwy y llynedd ac mae’n amser cyffrous i bawb sy'n ymwneud â'r clwb. Edrychaf ymlaen at weithio gyda'r tîm rheoli a'r chwaraewyr yn ogystal â chwarae o flaen y Cofi Army!' Croeso i'r Carling Oval Sam!

Pob Eitem Newyddion

#Unclwb