Cydweithio â Choleg Menai....
Cydweithio â Choleg Menai.... Fel rhan o'n partneriaeth gyda Choleg Menai rydym am geisio rhoi cyfle i'w myfyrwyr ddefnyddio eu sgiliau yn yr amgylchedd pêl-droed. Gyda hyn mewn golwg fe wnaethom ofyn yn ddiweddar iddynt weithio ar bosteri diwrnod gêm i ni. Dyma Paul, ein cadeirydd, yn esbonio mwy: "Rydym yn ymfalchïo mewn bod yn glwb cymunedol a dyna pam rydym wedi partneru gyda Choleg Menai. Rydym yn falch iawn o'r bartneriaeth hon ac un o'n hamcanion yw rhoi cyfleoedd i fyfyrwyr weithio yn yr amgylchedd pêl-droed. Gyda gêm rownd gynderfynol Ewropeaidd nos Gwener mor bwysig i ni, oedden isho roi cyfle i'r myfyrwyr gymryd rhan a gofynnwyd a hoffent baratoi posteri diwrnod gêm ar gyfer yr achlysur yma, ac felly byddwn yn rhannu eu posteri ar ein llwyfannau cyfryngau cymdeithasol yr wythnos hon wrth i ni baratoi ar gyfer y gêm. Rwy’n siŵr y bydd gwaith y myfyrwyr yn gwneud cymaint o argraff ar ein cefnogwyr ag ar ni yn yr Oval ac yda ni'n edrych ymlaen at gydweithio â chymaint ohonynt â phosibl yn y dyfodol.”