JD Cymru Premier

Cytundeb tymor hir i Richard!


Rydym yn falch iawn o gyhoeddi bod Richard Davies wedi arwyddo cytundeb tymor hir i barhau fel rheolwr tîm cyntaf y clwb. Cafodd Richard y swydd dros dro wrth i ni nesáu at ddiwedd tymor 2022/23 a’n helpu ni i frwydro yn erbyn diraddiad ar ôl yr hyn a fu’n dymor anodd i ni. Yna cafodd y swydd yn barhaol ac yn ei dymor cyntaf fel rheolwr fe dywysodd y clwb i gystadleuaeth Ewropeaidd am y tro cyntaf yn ein hanes. Dyma ein cadeirydd, Paul Evans, yn egluro pa mor bwysig yw'r newyddion i'r clwb "Mae'n amlwg i weld fod Richard a'i staff rheoli wedi gwneud gwaith ardderchog yn eu tymor llawn cyntaf ac rydym yn falch o'i wobrwyo gyda chytundeb hir dymor. Mae'n gwybod sut rydym yn rhedeg y clwb a beth rydym yn ei ddisgwyl gan y tîm rheoli. ac mae'n deg dweud ei fod wedi profi i fod yn ffit delfrydol fel ein rheolwr. Mae'r clwb nawr yn cychwyn ar brosiect hir dymor y gobeithiwn y bydd yn ein gweld yn tyfu ar y cae ac oddi arno ac mae Richard yn rhan enfawr o hyn. Rydym yn gyffrous i fod yn gweithio gydag ef ar yr antur gyffrous yma. Mae ein dyfodol yn dechrau nawr ac rydym i gyd yn edrych ymlaen at weld beth allwn ni ei gyflawni gyda’n gilydd.”

Pob Eitem Newyddion

#Unclwb