Diolch gan teulu Harry Griffiths
Diolch i glwb Pel Droed Caernarfon a’r Cefnogwyr, gan deulu Harry Griffiths.
Ymhellach i angladd Harry ar y 28/05/24, ar ran y teulu, hoffem ddiolch yn ddiffuant am y gefnogaeth, caredigrwydd a chydymdeimlad sydd wedi ei arddangos gan Glwb Pel Droed Caernarfon a’r cefnogwyr tuag atom yn ystod y cyfnod anodd yma. Diolch o galon am gynnal y munud o gymeradwyaeth cyn y gêm, y diwrnod ar ôl ei farwolaeth, yn ogystal, diolch am ganiatau i’r hers gael dod i mewn i’r Oval ar y ffordd i’r angladd, ac i’r holl gefnogwyr a ddaeth i’r Oval ac i’r angladd. Diolch i chi gyd am eich holl eiriau, cardiau ac ymweliadau o gydymdeimlad tuag atom, rydym yn ei wir werthfawrogi.
Da ni’n gwybod buasai eich cefnogaeth, caredigrwydd, cydymdeimlad a pharch yn meddwl y byd i Harry.
Diolch yn fawr iawn