JD Cymru Premier

Newyddion cyffrous wrth i'r Cofis groesawu sefydliad y merched iau i'r clwb!


Rydym yn gyffrous i gyhoeddi bod clwb merched iau y dref wedi ymuno â'n clwb pêl-droed! Mae’r clwb wedi’i redeg yn llwyddiannus ers blynyddoedd lawer ac mae ganddo 120 o chwaraewyr yn cystadlu drwy’r oesoedd......

Mae ein cadeirydd, Paul Evans, wrth ei fodd gyda’r newyddion:

“Gallaf ddweud heb cwestiwn mai dyma un o’r adegau mwyaf balch i mi ei gael fel cadeirydd y clwb. Nid yw merched iau’r dref erioed wedi bod yn rhan swyddogol o Glwb Pêl-droed Tref Caernarfon ac fel Bwrdd rydym wedi bod eisiau newid y sefyllfa yma ers tro byd. Rwyf wedi gweithio’n agos dros y tair blynedd diwethaf gyda’u cadeirydd, Dei Pritchard, i ailgyflwyno tîm merched hŷn gyda’r nod a gobaith rhyw ddiwrnod y byddai'r timau iau yn ymuno â ni. Roeddem yn teimlo mai dyma’r amser berffaith i weud hyn. Hoffwn ddiolch i'w Bwrdd a'u hyfforddwyr am gytuno i'r datblygiad cyffrous hwn.

Mae cael cant ac ugain o chwaraewyr ar draws saith tîm o Dan 10 i Dan 16 oed yn ymuno ac yn chwarae i’n clwb yn ddatblygiad gwych i ni ac i bêl-droed merched yn y dref a'r ardal.

Gallwn addo i’r holl ferched sydd am chwarae pêl-droed yn yr ardal y byddwn yn cefnogi ac yn annog pob un ohonynt a’n nod yw darparu llwybr o bêl-droed iau i’r oedran hŷn ar eu cyfer gyda Chlwb Pêl-droed Tref Caernarfon.

Rydym wedi ymrwymo’n llwyr i bêl-droed merched ac edrychwn ymlaen at weld be gallwn ei gyflawni gyda’n gilydd. Rydym yn falch iawn o fod yn Un Clwb o’r diwedd.“


Pob Eitem Newyddion

#Unclwb