JD Cymru Premier

Rhagolwg y Gem Cofis v Bala 25.8.2025


Rhagolwg y Gem....

Mae Gŵyl y Banc ddydd Llun yma yn gweld amserlen gemau lawn yn Uwch Gynghrair Cymru ac ymhlith y gemau bydd yr hyn a elwir gan rhai fel y 'Derbi Gwynedd'.

Bydd Caernarfon yn chwarae yn erbyn y Bala yn Stadiwm Go Goodwins mewn gêm ddiddorol ei golwg lle bydd y timau'n sefyll yn erbyn ei gilydd gyda charfanau sydd wedi newid yn sylweddol ers eu cyfarfod diwethaf, buddugoliaeth o 2-0 i'r Cofis ar Maes Tegid, cartref Bala yn mis ionawr.

Mae'r Bala dan reolaeth newydd y dyddiau hyn, gyda Stephen Fisher wedi cymryd drosodd gan Colin Caton yn ystod yr haf ac maen nhw wedi dechrau'r ymgyrch yn gadarn, gyda buddugoliaeth ar giciau o'r smotyn dros Gegidfa yng Nghwpan Nathaniel MG, gêm gyfartal gartref yn erbyn y Fflint a buddugoliaeth o 1-0 nos Wener dros Fae Colwyn.

Mae Caernarfon wedi cael dechreuad cadarnhaol iawn i'w tymor ac mae wedi bod yn ddiddorol gweld, er gwaethaf colli prif sgoriwr y tymor diwethaf, Louis Lloyd, i St Johnstone yn ddiweddar, eu bod wedi profi'n hynod o doreithiog o flaen y gôl hyd yn hyn.

Mae wedi sgorio un deg chwech o goliau yn eu pedair gêm gyntaf, gan gynnwys tair gem cynghrair, wedi gweld dynion Richard Davies yn symud ymlaen yn Gwpan Nathaniel MG ac yn cipio saith pwynt o'u tair gêm gynghrair gyntaf.

Cafodd buddugoliaeth gyffrous o 5-2 nos Wener yn y Fflint yr uchafbwynt ychwanegol o weld Sion Bradley, sydd ar fenthyg o'r Seintiau Newydd, yn dychwelyd i liwiau'r clwb.

Mae'r gêm yn cychwyn am 2:30pm.


Pob Eitem Newyddion

#Unclwb