Rhagolwg y gem fawr nos fawrth yma
Rhagolwg y gem fawr nos fawrth yma.
Mae Caernarfon yn gwynebu pencampwyr Uwch Gynghrair Cymru Y Seintiau Newydd ar yr Oval nos Fawrth yma mewn gêm sy’n argoeli i fod yn un gyffrous rhwng dau dîm sydd wedi dechrau’r tymor yn dda. Does dim syndod fod tîm Craig Harrison wedi dechrau’n gryf eto’r tymor hwn ac maen nhw ar hyn o bryd yn eistedd ar ben yr UGC gyda ugain pwynt o’u wyth gêm agoriadol. Nhw yw’r unig dîm yn yr haen uchaf sydd heb golli hyd at hyn tymor yma ac maent yn gwneud y daith i’r Oval ar gefn buddugoliaeth ysgubol o 5-1 yn Met Caerdydd ddydd Gwener.
Mae Caernarfon wedi bod yn chwarae’n dda eu hunain ac mae tîm Richard Davies yn gydradd drydydd yn y gynghrair, ar ôl cipio pedwar pwynt ar ddeg o’u wyth gêm agoriadol. Mae’r Cofis wedi synnu ambell un y tymor hwn gyda safon eu carfan ac fe fyddan nhw’n teimlo’n hyderus ar ôl buddugoliaeth galed dros Bontypridd ddydd Sadwrn.